Ysgol Friars : online

July 30, 2010
  Search

Cymraeg/Welsh Year 7

RHAGLEN ASTUDIAETH CYFNOD ALLWEDDOL 3

Daw’r disgyblion i Ysgol Friars o amrywiaeth eang o gefndiroedd ieithyddol.  Y mae’r rhai ddaw o ysgolion lleol eisoes wedi astudio’r Gymraeg yng nghyfnodau allweddol 1 a 2.  Bydd y rhaglenni astudio yn adeiladu ar y sgiliau a’r profiadau a dderbyniwyd yn barod, gan ehangu ymhellach ddatblygiad ieithyddol disgyblion unigol.  I’r rhai na dderbyniodd wersi Cymraeg yn yr ysgolion cynradd, bydd y cynllun gwaith wedi ei strwythuro yn ofalus i gwrdd a’u hangenion fel dechreuwyr.

MAE’R SGILIAU YN CYNNWYS:-

LLAFAREDD:- Anelir i ddatblygu gallu’r plentyn i glywed, deall ac ymateb i’r iaith, gan fynegi ei hun yn glir a chymeradwy.  Rhoddir pwyslais ar ynganiad cywir a dealladwy er mwyn gwella cyfathrebu ag eraill.

DARLLEN:- Mae cyfle i’r disgyblion fwynhau ystod eang iawn o wahanol ddeunyddiau darllen er mwyn ehangu eu sgiliau llythrennedd.  Bydd cyfle i ddarllen er pleser, gwybodaeth a darllen gwaith ei gilydd.

YSGRIFENNU:- Anogir y disgyblion i ysgrifennu yn greadigol a ffeithiol i gyfleu dychymyg, barn a gwybodaeth.  Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad iaith i gyd-fynd a gofynion y Cwricwlwm Cymraeg.

Y topigau a astudir ym mlwyddyn 7 yw Newid byd,Ysgol, Anifeiliaid, Amser Hamdden ynghŷd â Digwyddiadau’r flwyddyn fel Calan Gaeaf, Y Nadolig, Y Gwanwyn a.y.y.b.

GWAITH CARTREF

Bydd y gwaith cartref yn codi’n naturiol o waith y dosbarth ac yn estyniad naturiol ohono.

 

KEY STAGE 3 PROGRAMME OF STUDY

Children who attend Ysgol Friars come from varied linguistic backgrounds.

Children who arrive from local primary schools have studied Welsh at KEY STAGE 1 and 2.  The programme of study in Year 7 builds on the skills and experience already introduced and extends the linguistic development of individual pupils.

A percentage of pupils in Year 7 will begin to study Welsh for the first time and a carefully constructed beginners course caters for their needs.

THE SKILLS INVOLVED:-

ORAL:- develop of receptive oral skills, expressive oral skills, narrative and descriptive skills.In language development throughout the above skills there will be emphasis on correct enunciation and appropriate oral expression in clear, concise sentences.

READING:-  opportunity will be given for pupils to read printed resources related to their environment, read their work to fellow pupils, read for information, read for pleasure, read for creating.

WRITING:-  work will encompass imaginative work, expression of opinions, factual work. In language development, there will be emphasis on the use of a varied range of phrases and developing an awareness of accuracy.

Topics studied in Year 7 include Changing world, School, Animals, Leisure time in addition to events happening during the course of the year e.g. Halloween, Christmas, Spring etc.

HOMEWORK will be an extension and consolidation of the class work.


Designed, developed and maintained with pride by Ysgol Friars Staff
Copyright 2001-2010 Ysgol Friars